Mae carfan saith bob ochr merched Cymru yn teithio i Marbella dros y penwythnos ar gyfer y rownd derfynol y Gyfres Grand Prix saith bob ochr 2013.

Ar ôl cystadlu yn Brive bythefnos yn ôl, mae’r rheolwr Rhys Edwards wedi gwneud ychydig o newidadau i’w garfan ar gyfer y daith.

Mae Caryl James yn dychwelyd o’i hanaf yn ogystal â Delyth Davies.

Bydd Cymru yn yr un grŵp a Rwsia, Sbaen, yr Iseldiroedd, yr Eidal a’r Wcráin.

‘‘Roedd Brive yn wers dda ar gyfer y garfan gan ddangos pa mor bwysig yw meddiant a chysondeb mewn gêm saith bob ochr,” meddai Rhys Edwards.

“Mae Marbella yn gyfle i wirio rhai gwallau wnaethom yn Brieve,” ychwanegodd.

‘‘Mi fydd hi’n anodd oherwydd y tymheredd uchel, ond bydd yn rhaid i ni faeddu timau fel yr Eidal a’r Wcráin i orffen yn yr wyth uchaf.”

Carfan Cymru

Caryl James, Rhiannon Parker, Elen Evans Dolgellau, Rafiuke Taylor, Elinor Snowsill, Philippa Tuttiett, Sioned Harries, Laurie Harries, Nia Davies, Dyddgu Hywel, Delyth Davies a Carys Phillips.