Robin McBryde - angen ymdrech arbennig yn erbyn Japan
Mae Cymru wedi gwneud pedwar newid i’w tîm ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Japan yn Tokyo ddydd Sadwrn.
Fe fydd blaenasgellwr Gleision Caerdydd, Josh Navidi, yn ennill ei gap cynta’, tra bydd Tom Prydie, Rhys Gill ac Andries Pretorius hefyd yn dechrau’r gêm.
Enillodd tîm Robin McBryde y prawf cynta’ yn Osaka penwythnos diwethaf ac mi fydd Cymru’n gobeithio ennill eu chweched gêm o’r bron dydd Sadwrn.
Ymdrech arbennig
“Roeddem yn falch iawn o ymdrech y tîm wythnos ddiwetha’, ond rydan ni’n gwybod y bydd rhaid i ni roi ymdrech arbennig eto ddydd Sadwrn,” meddai prif hyfforddwr dros-dro Cymru, Robin McBryde.
“Roedd yn dda gweld cymeriad y garfan yn y prawf cyntaf, a bydd angen i ni wneud hynny eto.
“Mae’r chwaraewyr eto wedi rhoi eu dwylo i fyny i gael eu dethol gan wneud ein swydd ni’n anodd ac sy’n dangos eu bod nhw’n benderfynol o fynd allan ar y cae a chynrychioli eu gwlad.
“Dangosodd Japan yr hyn y maen nhw’n gallu ei wneud y penwythnos diwethaf ac rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau i gael yr ail fuddugoliaeth a gorffen y tymor ar nodyn uchel. ”
Y tîm
Tîm Cymru: Liam Williams (Scarlets), Harry Robinson (Gleision), Owen Williams (Gleision), Jonathan Spratt (Gweilch), Tom Prydie (Dreigiau), Dan Biggar (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Rhys Gill (Saracens), Emyr Phillips (Scarlets), Scott Andrews (Gleision), Bradley Davies (CAPT) (Gleision), Lou Reed (Gleision), James King (Gweilch), Josh Navidi (Gleision), Andries Pretorius (Gleision).
Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Craig Mitchell (Exeter Chiefs), Andrew Coombs (Dreigiau), Dan Baker (Gweilch), Tavis Knoyle (Scarlets), Rhys Patchell (Gleision), Dafydd Howells (Gweilch).