Laudrup
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi torri cysylltiad gyda Bayram Tutumlu, sef asiant eu rheolwr Michael Laudrup.

Dyma’r digwyddiad diweddaraf mewn ffrae sydd wedi para rhai wythnosau bellach. Mae’r penderfyniad gan y clwb yn dilyn anghytuno ynglŷn â phwy ddylai’r clwb brynu i gryfhau’r garfan ar gyfer y tymor nesaf.

Mae sôn hefyd bod Tutumlu wedi ceisio gwerthu amddiffynnwr a chapten Cymru, Ashley Williams. Mae’r amddiffynnwr, sy’n 28, wedi’i gysylltu â chlybiau Liverpool ac Arsenal, ond nid yw Abertawe am ei werthu o gwbl.

Mae sôn hefyd bod Tutumlu wedi ceisio arwyddo chwaraewyr tu ôl i gefn Abertawe.

Laudrup am aros

O ganlyniad i hyn mae’r clwb wedi torri cysylltiad gyda’r asiant, sydd wedi bod yn gweithio gyda Laudrup ers ei amser yn chwarae i Barcelona.

Er hyn, mae’n edrych fel petai Laudrup dal am aros yn Abertawe, ond mae’n pwysleisio bod angen cryfhau’r garfan.

Beth ydych chi’n ei feddwl? A fydd Laudrup yn dal i reoli Abertawe tymor nesaf? Pleidleisiwch yn ein pôl piniwn isod: