Xavier Rush
Mae hyfforddwr amddiffyn y Gleision, Xavier Rush, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y rhanbarth.

Ymunodd Rush â’r Gleision yn 2005 ar ôl ennill wyth cap i Seland Newydd ac enillodd wobr chwaraewr y flwyddyn yn ei dymor gyntaf gyda’r rhanbarth.   Roedd Rush yn allweddol i lwyddiant y Gleision wrth iddynt ennill Cwpan her Amlin a’r Cwpan EDF Eingl-Gymreig.

Dioddefodd anaf i’w gwddf yn y rowndiau chwarteri yng nghystadleuaeth Cwpan Heineken yn erbyn Leinster a orfododd iddo ymddeol o chwarae ond cafodd swydd hyfforddi gyda’r Gleision.

Yn ddiweddar fe ddaeth yn dad, ac mae bellach wedi penderfynu gadael ei swydd hyfforddi i ddatblygu gyrfa fel datblygwr eiddo.

‘‘Rwyf wedi mwynhau yma gyda’r Gleision, ac wedi dysgu llawer fel rhan o’r tîm hyfforddi. 

“Fodd bynnag, yr wyf yn teimlo mai nawr yw’r amser i mi orffen wedi bod yn ymwneud â rygbi proffesiynol am 16 blynedd.  Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ers i mi gyrraedd Cymru yn 2005,’’ meddai Rush.

‘‘Does dim amheuaeth ynglŷn â chyfraniad Xavier Rush i’r Gleision.  Roedd yn chwaraewr hynod o gorfforol a phwerus.  Ar ran pawb, hoffwn ddiolch iddo am ei gyfraniad a dymuno’n dda iddo a’i deulu ifanc am y dyfodol. 

“Bydd yna groeso o hyd iddo yma,’’ meddai Peter Thomas, Cadeirydd Gleision Caerdydd.