Mae rheolwr tîm Cymru dan 20 oed, Danny Wilson, wedi gwneud saith newid i’w tîm yn erbyn yr Ariannin yfory.

Mae’r ddau dîm wedi curo Samoa a’r Alban yn barod ac fe fydd enillydd y gêm yfory yn sicrhau lle yn y rownd cyn derfynol am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae cefnwr y Dreigiau, Hallam Amos yn dychwelyd i’r tîm gyda’i gyd chwaraewr rhanbarthol Jack Dixon a’r asgellwr o Bontypridd Owen Jenkins. 

Yn y rheng flaen, mae Gareth Thomas yn dechrau yn safle’r prop ac Ethan Lewis yn safle’r bachwr; bydd Carwyn Jones yn ymuno gyda Rhodri Hughes yn yr ail reng gydag wythwr y Dreigiau Ieuan Jones yn dychwelyd gyda Sion Bennett a’r capten Ellis Jenkins yn y reng-ôl.

‘‘Mae dewis tîm yn mynd yn fwy anodd â phob gêm ac mae hynny’n sicr yn beth da.  Mae yna rhai chwaraewyr sy’n anlwcus i golli allan ar le yn y tîm,’’ meddai Wilson.

Tîm Cymru dan 20 oed

Olwyr – Hallam Amos, Owen Jenkins, Steffan Hughes, Jack Dixon, Ashley Evans, Sam Davies a Rhodri Williams.

Blaenwyr – Gareth Thomas, Ethan Lewis, Nicky Thomas, Carwyn Jones, Rhodri Hughes, Sion Bennett, Ellis Jenkins a Ieuan Jones.

Eilyddion – Elliot Dee, Thomas Davies, Dan Suter, Jack Jones, James Benjamin, Joshua Davies, Jordan Williams a Harri Evans.