Mae bachwr y llewod, Richard Hibbard wedi dweud bod gan y garfan llawer mwy i’w gynnig ar ôl curo’r Combined Country XV o 64-0 yn Hunter Stadium ddoe.

Er gwaethaf ail hanner a oedd yn cynnwys nifer o wallau, tiriodd y Llewod 10 cais gan gynnwys dau gais i’r asgellwr George North.

‘‘Chwarae teg iddyn nhw, fe amddiffynnon nhw’n wych.  Roedd llawer o bethau cadarnhaol yn yr hanner gyntaf, ond roedd yr ail hanner yn siomedig,’’ meddai’r bachwr rhyngwladol.

Ond nid oes amser i’r chwaraewyr ymlacio ac i fwynhau’r fuddugoliaeth, ac mae Hibbard yn disgwyl i Warren Gatland, rheolwr y Llewod i atgoffa’r garfan yn gyflym bod llawer o waith i’w wneud.

‘‘Yn amlwg ei bod yn siomedig gyda’r perfformiad yn yr ail hanner.  Mae cymaint mwy i ddod wrthym ni,’’ ychwanegodd Hibbard.