Mae’r Elyrch yn gobeithio cadw Jonathan de Guzman. Mae Abertawe yn awyddus iawn i gadw’r chwaraewr canol cae de Guzman ar gyfer y tymor nesaf.
Fe wnaeth de Guzman sy’n 25 oed dreulio y tymor diwethaf ar fenthyg ar y Liberty, ond mae wedi cyfaddef ei fod yn ansicr am ei ddyfodol, gan fod ei glwb Villareal wedi cael dyrchafiad i gynghrair La Liga.
Mae’n debyg bod y clwb o Sbaen yn fodlon gwerthu de Guzman i Abertawe am saith miliwn, ond mae Abertawe yn obeithiol ei gael ar fenthyg y tymor nesaf eto os na allant gytuno ar y pris amdano.