Fydd lle i Warburton yn nhîm prawf y Llewod?

Bydd penderfyniad anodd ei wneud gan dîm hyfforddi’r Llewod pan fyddant yn dewis rhwng Justin Tipuric a Sam Warburton i wisgo’r crys rhif 7 yn erbyn Awstralia ymhen pythefnos.

Yn ôl Dean Ryan, cyn chwaraewr rhyngwladol Lloegr a dadansoddwr ar Sky Sports, mae Tipuric wedi creu argraff ym mhob gêm cyn belled.

Mae’n debyg y bydd Warren Gatland, prif hyfforddwr y Llewod yn dewis Warburton i chwarae yn erbyn y Waratahs y penwythnos yma, ac mae Ryan yn credu bydd y gêm yn un hollbwysig i gapten y Llewod.

‘‘Mae’n gêm enfawr iddo ddydd Sadwrn. Nid yw’n anarferol i Warbuton fethu â chwarae llawer iawn o gemau.  Ni chafodd y dechreuad delfrydol i’r daith, ond mae ganddo un cyfle arall dydd Sadwrn.  Mae’n benderfyniad mawr i adael y Capten allan o’r tîm,’’ meddai Ryan.

Dewis y ddau?

Cafodd Robert Howley, a oedd yn hyfforddwr dros dro Cymru, yr un penbleth ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, a phenderfynodd ddewis y ddau i chwarae yn erbyn Lloegr yn y gêm dyngedfennol.

Ond mae cystadleuaeth ehangach yn reng-ôl y Llewod – mae’r Gwyddel Sean O’Brien wedi creu argraff, yn enwedig yn y gêm ddoe yn erbyn y Combined Country XV.

‘‘Roedd y broblem wastad yn mynd i godi,’’ ychwanegodd Ryan.