Matt Elias
Mae’r cyn-redwr 400m dros y clwydi, Matt Elias yn dychwelyd i’r byd athletau, ar ôl cael 1,000 o ddilynwyr ar wefan Trydar.
Dywedodd y byddai’n cystadlu yn rasus 200m a 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaethau Cymru pe bai digon o bobol yn ei ddilyn.
Daeth cadarnhad y bore ma y byddai’n rhedeg yn y ras 200m ar ôl iddo gyrraedd 900 o ddilynwyr.
Ac fe gyrhaeddodd 1,000 o ddilynwyr yn ddiweddarach heddiw, sy’n golygu y bydd e hefyd yn cystadlu yn y 400m dros y clwydi.
Wrth gyrraedd y nod, fe ddywedodd: “1,000 yn union, edrych fel fy mod i’n wynebu ychydig o boen!”
Yn gynharach, fe ddywedodd: “Diolch i’m holl ddilynwyr newydd, fe fydd hen ddyn nawr yn rhedeg ras 200m ym Mhencampwriaethau Cymru.”
Yn 2003, enillodd y fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop, ac fe orffennodd yn bumed yn y ras gyfnewid 4x400m yng Ngemau Olympaidd Athen.
Cipiodd ddwy fedal arian yng Ngemau’r Gymanwlad ym Manceinion yn 2002.