Sam Warburton
Ni fydd capten y Llewod, Sam Warburton  yn nhîm y Llewod i herio’r Barbariaid yn Hong Kong ddydd Sadwrn.

Mae e wedi anafu’i ben-glin ac mae’r hyfforddwr, Warren Gatland wedi penderfynu peidio ei gynnwys yn y garfan wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y daith i Awstralia.

Ail reng Iwerddon, Paul O’Connell fydd yn gapten ar y Llewod yn absenoldeb Warburton.

Mae naw Cymro yn y tîm, gan gynnwys uned y rheng ôl, Dan Lydiate, Justin Tipuric a Toby Faletau.

Dywedodd hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland: “Mae e wedi cael poen yn ei ben-glin yn ystod y deng niwrnod diwethaf.

“Mae’r meddygon wedi rhoi pigiad iddo fe ac wedi dweud wrtho am aros oddi ar ei draed am ryw bum niwrnod.

“Roedd e’n ysu am gael chwarae, ond roedden ni’n teimlo ei bod hi’n rhy gynnar yn y daith a dydy hi ddim werth y risg.

“Dim ond bod yn ofalus ydyn ni.”