Michael Laudrup
Mae mwy o bwysau ar reolwyr na chwaraewyr yn y byd pêl-droed, yn ôl rheolwyr Abertawe, Michael Laudrup.

Yn ystod y 90au, roedd Laudrup ymhlith chwaraewyr gorau’r byd, gan ennill pencampwriaethau gyda chlybiau Real Madrid, Barcelona, Juventus ac Ajax.

Bellach, mae’n rheolwr ar Abertawe, sydd newydd sicrhau trydydd tymor yn yr Uwch Gynghrair, ac fe fyddan nhw’n cystadlu yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf yn dilyn eu llwyddiant yng Nghwpan Capital One.

Dywedodd Laudrup: “Mae hi lawer iawn mwy anodd bod yn rheolwr na chwaraewr.

“Mae’r ddwy swydd yn amlwg yn hollol wahanol. Fel chwaraewr pêl-droed, rydych chi’n un o 25.

“Fel rheolwr, rydych chi ar eich pen eich hun.

“Mae gyda chi grŵp i weithio gyda nhw ond ar ddiwedd y dydd, rydych chi ar eich pen eich hun.

“Rhaid i chi wneud y penderfyniadau a bod yn gyfrifol am bopeth.”

Ymhlith y penderfyniadau sy’n wynebu Laudrup dros yr haf yw dyfodol capten yr Elyrch, Ashley Williams, ac fe fydd cryn ddiddordeb hefyd yn ymosodwr y clwb, Miguel Michu, oedd yn un o sêr yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Roedd adroddiadau ar ddiwedd y tymor bod gan Arsenal ddiddordeb yn Williams.

Dywedodd Laudrup: “Oni bai y gallwn ni ddod o hyd i gannoedd o filiynau o bunnoedd, rwy’n credu ein bod ni wedi cyflawni’r mwyaf sy’n bosibl y tymor diwethaf o ran y tabl.

“Mae yna bethau y gallwch chi wella arnyn nhw bob amser, ond does dim llawer iawn o safleoedd yn uwch y gallwn ni edrych arnyn nhw.

“Mae cynnal y safon, hyd yn oed, yn mynd i fod yn anodd iawn.

“Bydd rhai o’r timau oedd oddi tanon ni y tymor hwn yn buddsoddi’n helaeth – West Ham, Newcastle, Aston Villa.

“Maen nhw’n glybiau anferth sydd am fynd â’r safle lle rydyn ni nawr.”