Mae blaenasgellwr Gleision Caerdydd Josh Navidi a chanolwr y Scarlets Adam Warren wedi cael eu galw i garfan Cymru ar gyfer y daith i Siapan.
Daw’r cyhoeddiad wedi i Aaron Shingler sy’n chwarae i’r Scarlets ac Ashley Beck sy’n chwarae i’r Gweilch gael eu hanafu.
Mae Aaron Shingler wedi methu gwella o anaf i’w droed tra bod Ashley Beck wedi anafu ei bigwrn.
Roedd Josh Navidi, sy’n cymryd lle Aaron Shingler, yn arfer bod yn gapten tîm dan 20 Cymru tra bod Adam Warren a enillodd ei gap cyntaf i Gymru haf diwethaf yn erbyn y Barbariaid yn dod i’r garfan yn lle Ashley Beck.