Mae cariad canolwr tîm pêl-droed Abertawe wedi datgan ar wefan Twitter eu bod am briodi’r haf hwn.
Arwyddodd Ki Sung-yueng i Abertawe yn yr haf y llynedd o Celtic a bydd yn priodi actores enwog o’i famwlad, Han Hye-jin.
Dywedodd Han Hye-jin ar Titter heddiw: “Fe fyddwn ni’n priodi ar Orffennaf 1.”
Mae’r datganiad wedi denu llawer o sylw yn Ne Corea oherwydd enwogrwydd y ddau a hefyd oherwydd bod Han yn wyth mlynedd yn hyn na’r chwaraewr pêl-droed, sy’n beth prin iawn yn y wlad.
Mae’r cwpl wedi dweud y byddan nhw’n priodi yng Ngwesty’r Intercontinental yn Seoul.
Bydd rhaid i Ki Sung-yueng ddychwelyd i Gymru’r diwrnod canlynol er mwyn dechrau hyfforddi gydag Abertawe.
Meddai Han Hye-jin, sy’n actio mewn opera sebon ac yn cyflwyno rhaglen o’r enw Healing Camp yn Ne Corea, ei bod hi’n bwriadu symud at ei gŵr newydd i Gymru yn y dyfodol agos.