Mark Hughes
Mae Stoke City wedi bod mewn cysylltiad â chyn reolwr Cymru, Mark Hughes ynglŷn a’r swydd rheolwr y clwb. Erbyn hyn Hughes yw’r ffefryn i olynu Tony Pulis a ymddiswyddodd ar ôl bod yn rheoli’r clwb am gyfnod o 7 mlynedd.

Mae Hughes wedi bod yn ddiwaith ar ôl cael ei ddiswyddo gan glwb Queens Park Rangers. Er mai Hughes yw’r ffefryn mae’n debyg y bydd y clwb yn cyfweld eraill am y swydd. Bu Hughes yn ymosodwr dylanwadol gyda Manchester United, Barcelona a Chelsea.

Ar ôl gorffen chwarae cafodd cafodd ei apwyntio yn reolwr Cymru yn 1999 cyn gadael i reoli Blackburn yn 2004. Gadawodd Blackburn i reoli Manchester City am ddeunaw mis cyn golli ei swydd i Roberto Mancini.

Treuliodd dymor yn rheoli Fulham cyn ymuno â QPR yn Ionawr 2012. Er iddo achub y clwb rhag syrthio o’r Uwch gynghrair y tymor hwnnw, cafodd ei ddisywddo wedi tri mis o’r tymor newydd.

Mae enw cyn rheolwr Abertawe a rheolwr presennol Wigan, Roberto Martinez hefyd wedi ei gysylltu â’r swydd.