Mae Itay Shechter wedi diolch i Abertawe am dymor arbennig ar ôl i’w gyfnod ar fenthyg gyda’r clwb ddod i ben.
Fe wnaeth Shechter ymuno â’r Elyrch fis Awst diwethaf o Kaiserslautern ac fe chwaraeodd ran mewn 19 o gemau.
Er mai dim ond unwaith y gwnaeth y chwaraewr rhyngwladol o Israel sgorio fe ddiolchodd i’r clwb am y cyfle i ennill tlws yn Wembley.
‘‘Ers i mi gyrraedd yr wyf wedi cael fy nhrin yn dda ac wedi mwynhau bod yn rhan o’r garfan. Fe fu’n dymor anhygoel. Yr oedd yn deimlad da bod yn rhan o’r cyfan ac yr wyf am ddiolch i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth trwy gydol y tymor,’’ meddai Shechter.