Robin McBryde
Fe fydd hyfforddwr dros dro Cymru, Robin McBryde yn cyhoeddi ei garfan fydd yn teithio i Siapan yn ystod yr haf am 1yh heddiw.
Nid dyma’r tro gyntaf i McBryde arwain ei wlad, fe wnaeth y cyn-fachwr gymryd yr awenau pan deithiodd Cymru i Ganada a’r Unol Daleithiau yn 2009.
Ryan Jones yw’r ffefryn i arwain y tîm cenedlaethol yn Siapan, ar yr amod y byddai’n holliach ar ôl torri ei asgwrn yn ei ysgwydd yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Wedi siom y Llewod, mae disgwyl i Ken Owens, Paul James a Dan Biggar gael eu cynnwys yn y tîm.
Mae’n debygol y bydd y maswr Rhys Priestland a’r clo Bradley Davies yn cael eu cynnwys yn y garfan wedi iddyn nhw golli Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anafiadau.
Ac ar gyfer y crys rhif deg, bydd yna ddigon o gystadleuaeth gyda Rhys Patchell, Dan Biggar, Rhys Priestland a James Hook yn brwydro am safle’r maswr.
Ond ni fydd y gwibiwr Eli Walker yn cael ei gynnwys ar y daith oherwydd iddo dderbyn llawdriniaeth i’w gefn.