Mae blaenasgellwr y Dreigiau Dan Lydiate wedi cyfaddef fod clywed ei enw’n cael ei alw ddoe yng nghyhoeddiad carfan y Llewod yn “sioc” iddo.

Prin bod chwaraewr gorau pencampwriaeth Chwe Gwlad 2012 wedi chwarae’r tymor yma ar ôl torri ei bigwrn ym mis Medi.

“Mae hi wedi bod yn rhwystredig dros y misoedd diwethaf, ond gobeithio fod hynny i gyd tu ôl i mi nawr,” meddai Dan Lydiate wrth Golwg360.

Dychwelodd i chwarae dros y Dreigiau ym mis Mawrth gan wneud digon o argraff ar Warren Gatland i gael ei gynnwys ymhlith y 37.

“Roedd clywed fy enw yn cael ei alw yn dipyn o sioc gan mod i heb chwarae ers chwe mis, ond rwyf wrth fy modd,” meddai’r mab fferm 25 oed o Bowys.

Mae Lydiate, fydd yn gadael y Dreigiau dros yr haf, yn gobeithio fod y saib hir oddi ar y cae yn mynd i fod o’i blaid pan ddaw hi’n amser i ddewis y pymtheg i gychwyn y prawf cyntaf yn Awstralia ar Fehefin 22.

“Fi’n teimlo’n ffres iawn ar y funud,” meddai.

“Mae hi’n teimlo fel ei bod hi’n ddechrau tymor arna i. Dwi’n edrych ymlaen am y misoedd nesaf, ond yn ceisio rhoi popeth mewn perspectif.”

George yn gwireddu breuddwyd

Asgellwr y Scarlets, George North, fydd y Cymro ieuengaf yn y garfan. Yn 21 mlwydd oed, dyma fydd carreg filltir ddiweddaraf y cawr o Fôn.

 “Dyma beth rydw i wedi bod yn ymarfer yn galed amdano,” meddai.

“Pan rwyt ti’n blentyn dyna ti’n meddwl amdano a dyma’r tim mwyaf gallwch chi chwarae drosto.” 

Bydd digon o wynebau cyfarwydd yn y garfan gyda George North.

“Mae’n neis i gael lot o fois Cymru yn y garfan hefyd, y rhai dwi’n chwarae gyda nhw pob wythnos. Fydd o’n neis cael mynd yn ôl at Warren [Gatland] ar ôl iddo fo fethu ychydig bach o amser gyda’r tîm cenedlaethol, ond yn amlwg mae Rob [Howley] a Jenks [Neil Jenkins] yna hefyd, felly fydd o’n neis cael pawb nôl at ei gilydd.”

Stori: Owain Gruffudd