Sam Warburton
Mae canolwr y Gleision Jamie Roberts wedi rhoi ei gefnogaeth i’w gyd-chwaraewr Sam Warburton ar ol cael ei ddewis yn gapten y Llewod.

Mae rhai wedi beirniadu’r penodiad gan ddweud bod Warburton, sy’n 24 oed, yn rhy ifanc i arwain y garfan.  Roedd llawer wedi datgan mai un o’r ddau Wyddel profiadol, Brian O’Driscoll neu Paul O’Connell, fyddai’r capten.

‘‘Mae’n anrhydedd enfawr ac mae gen i barch mawr tuag at Sam am yr hyn mae wedi cyflawni.  Mae’n gyfle unigryw iddo fod yn gapten ar y Llewod ac rwy’n siŵr bydd pob un yn gefn iddo yn ystod y daith,’’ meddai Jamie Roberts.

Mae Roberts a Warburton ymhlith 15 Cymro fydd ar y daith i Awstralia.