Yfory fe fydd y Gweilch yn croesawu Treviso i Stadiwm y Liberty.
Byddai buddugoliaeth yn cryfhau gobeithion y rhanbarth o gael cystadlu yn y gemau ail gyfle yng nghynghrair y Rabo Direct Pro12.
Mae’r Gweilch wedi ennill eu wyth gêm olaf yn y Liberty, ac nid ydyn nhw erioed wedi colli gartref i Treviso.
Ond bydd yr Eidalwyr yn cyrraedd yn eithaf hyderus a hwythau wedi ennill eu tair gêm diwethaf yn y gynghrair ac wedi curo’r Gweilch ddwywaith y tymor hwn yn barod.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Richard Fussell, Tom Habberfield, Jonathan Spratt, Ashley Beck, Ben John, Dan Biggar a Kahn Fotuali’i.
Blaenwyr – Ryan Bevington, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones (Capten), Ian Evans, James King, Justin Tipuric a Joe Bearman.
Eilyddion – Scott Baldwin, Duncan Jones, Cai Griffiths, Lloyd Peers, Jonathan Thomas, Rhys Webb, Matthew Morgan a Tom Isaacs.
Y gêm yn fyw nos yfory ar Y Clwb Rygbi ar S4C am 6:30 yr hwyr