Mae Prif hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards wedi gwneud ychydig o newidiadau i bac y Dreigiau gyda Sam Parry, Nathan Buck a Darren Waters yn cael eu cynnwys ymhlith y blaenwyr.

Mae Waters wedi creu argraff ar nifer yn Uwch Gynghrair y Principality gyda’i allu i gario’r bêl ac wedi gwella o’i anaf i’w ben-glin.

‘‘Ni allai fod wedi ei anafu ar adeg gwaeth. Ar ôl i Gavin Thomas ymddeol y tymor diwethaf, roedd yna gyfle mawr iddo yma,’’ meddai Darren Edwards.

‘‘Mae Darren [Waters] wedi gweithio mor galed i ddod yn ôl, ac wedi disgleirio yn yr Uwch Gynghrair,’’ ychwanegodd Edwards.

Bydd y Dreigiau yn cadw’r ffydd gyda phartneriaeth canol cae ifanc Pat Leach a Jack Dixon, a Dan Evans yn safle’r maswr.  Bydd Andrew Coombs yn parhau’n gapten y tîm.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Tom Prydie, Will Harries, Pat Leach, Jack Dixon, Ross Wardle, Dan Evans a Jonathan Evans.

Blaenwyr – Aaron Coundley, Sam Parry, Nathan Buck, Andrew Coombs (Capten), Rob Sidoli, Dan Lydiate, Darren Waters a Toby Faletau.

Eilyddion – Hugh Gustafson, Nathan Williams, Dan Way, Adam Jones, Jevon Groves, Wayne Evans, Steffan Jones a Andy Tuilagi.