Mae rheolwr Abertawe wedi dweud nad oes ganddo unrhyw broblem gyda’r posibilrwydd o werthu ei chwaraewyr gorau dros yr haf.
Mae Michu, Ashley Williams a Michael Vorm wedi dod i’r amlwg fel targedau posibl ar gyfer rhai o glybiau mawr Ewrop.
Yn ôl adroddiadau mae Arsenal a Lerpwl eisiau prynu Ashley Williams.
Cafodd Joe Allen, Scott Sinclair a Danny Graham eu gwerthu am gyfanswm o £28 miliwn yn ystod cyfnod presennol Laudrup wrth y llyw.
Dim pwynt cadw chwaraewyr sydd am fynd
Tra’n cydnabod nad oes gwerth mewn dal agafel mewn chwaraewyr sydd am symud I glybiau eraill, mae Laudrup wedi mynnu mai dim ond rhai o’r chwaraewyr fydd yn cael eu gwerthu, ar yr amod bod y gwerthiant o fudd i’r clwb.
Defnyddiodd Laudrup gwerthiant Allen am £15 miliwn i Lerpwl fel enghraifft berffaith o gynnig a oedd yn rhy dda I’w wrthod.
‘‘Mae’n chwaraewr arbennig, ond am £15 miliwn, pan glywais i’r ffigurau yna, nid oeddwn yn gallu credu’r peth,’’ meddai Laudrup.
Mae Abertawe am wneud benthyciad De Guzman o Villarreal yn un barhaol, ond nid yw Laudrup yn disgwyl unrhyw ddatblygiadau cyn diwedd y tymor.
Hefyd mae gan yr Elyrch ddiddordeb yn chwaraewr canol cae Real Betis, Jose Canas, yn ogystal â’r ymosodwr Romelu Lukaku sydd yn West Brom ar y funud.
‘‘Mae rhai o’r enwau sy’n gysylltiedig ag Abertawe yn chwaraewyr da, ac yn chwaraewyr diddorol iawn. Rwy’n hapus am hynny,’’ ychwanegodd Laudrup.