Mae’r Scarlets yn chwarae un o gemau pwysicaf eu tymor heno yn y gystadleuaeth RaboDirect Pro12.

Daw’r tîm sydd ar frig y gynghrair i Barc y Scarlets – mae Glagsow Warriors yn chwarae yn dda ar hyn o bryd.

Gyda gobaith y Scarlets o orffen yn y pedwar uchaf a chwarae yn y gemau ail gyfle yn dal yn fyw, a hwythau ar yr un nifer o bwyntiau â’r Gweilch yn y pedwerydd safle, bydd angen buddugoliaeth.

Ond mae Prif Hyfforddwr y Scarlets yn ymwybodol iawn o gryfder a hyder Glasgow.

‘‘Mae’r ddau dîm yn benderfynol o gipio’r pwyntiau ac fe fydd yn brawf mawr i ni, ond yr ydym yn edrych ymlaen at y gêm,’’ meddai Simon Easterby.

‘‘Fe wnaeth Glasgow ddangos yn erbyn Munster pa mor effeithiol y medran nhw fod ac maen nhw’n llawn hyder ar y funud,’’ ychwanegodd.

Ond gall y Scarlets frolio record dda yn ddiweddar hefyd, gyda chwe buddugoliaeth yn eu saith gêm olaf.

Hefyd maen nhw wedi ennill eu pedair gêm olaf ar Barc y Scarlets.

‘‘Os na fyddwn ar ein gorau, fe fydd Glasgow yn siwr o’n cosbi,” rhybuddiodd Easterby.

“Ond mae gennym ddigon i ganolbwyntio arno, ac yr ydym yn awyddus i ddangos i’n cefnogwyr ein bod yn medru cystadlu gyda’r gorau.  Mae’n gêm enfawr i ni ac mae’r bechgyn wedi gweithio’n galed yn ystod yr wythnos.’’

Bydd Andy Fenby yn dechrau ar yr asgell a Liam Williams yn symud o’r asgell i safle’r cefnwr gan fod Gareth Owen yn sâl.  Ken Owens fydd yn dechrau’r gêm yn fachwr a Matthew Rees ar y fainc.  Mae’r mewnwr Gareth Davies yn cael lle ar y fainc.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Andy Fenby, Owen Williams a Aled Davies.

Blaenwyr – Phil John, Ken Owens, Samson Lee, George Earle, Johan Synman, Aaron Shingler, Johnathan Edwards a Rob McCusker (Capten).

Eilyddion – Matthew Rees, Rhodri Jones, Deacon Manu, Sione Timani, Josh Turnbull, Gareth Davies, Aled Thomas a Gareth Maule.

Y gêm yn fyw heno ar Scrum V am 7.05 yr hwyr ar BBC 2 Cymru