Yfory fe fydd Ceri Sweeney a Jamie Roberts yn chwarae eu gêm olaf i’r Gleision yn erbyn Zebre ar Barc yr Arfau.
Mae Roberts am fynd i chwarae yn Ffrainc i Racing Metro, a Sweeney am Gaerwysg (Exeter).
Yn 2008 ymunodd Ceri Sweeney â’r Gleision o Ddreigiau Casnewydd. Fe chwaraeodd 110 o gemau dros y rhanbarth.
Fe wnaeth Roberts ei ymddangosiad cyntaf i’r Gleision ar yr asgell ym mis Awst 2007. Ers hynny, mae Roberts wedi chwarae 84 o gemau i’r Gleision a bu’n aelod o dîm y Llewod yn 2009 adeg eu taith i Dde Affrica.
‘‘Maen nhw wedi bod yn chwaraewyr arbennig i’r rhanbarth, a gobeithio bydd torf fawr yno i ffarwelio efo’r bechgyn yma ac i orffen ein hymgyrch gartref yn gadarn,’’ meddai Phil Davies, Cyfarwyddwr rygbi’r Gleision.
Bydd y Gleision yn ceisio ddod o hyd i ffordd o ennill wedi iddyn nhw golli pedair gêm yn olynol – nid ydyn nhw wedi colli pump gêm yn olynol yn y gystadleuaeth ers y tymor 2004/05.
Tîm y Gleision
Olwyr – Leigh Halfpenny, Owen Williams, Gavin Evans (Capten), Jamie Roberts, Harry Robinson, Rhys Patchell a Lewis Jones.
Blaenwyr – Robin Copeland, Sam Warburton, Michael Paterson, Filo Paulo, Lou Reed, Scott Andrews, Marc Breeze a Taufa’ao Filise.
Eilyddion – Kristian Dacey, Thomas Davies, Benoit Bourrust, James Down, Luke Hamilton, Alex Walker, Ceri Sweeney a Gareth Davies.