Roedd Abertawe i fod i herio eu cyn-reolwr Roberto Martinez a’i dîm Wigan y penwythnos hwn. Ond gan fod y Latic yn chwarae semi-ffeinal yn Wembley, mae’r gêm gynghrair wedi ei gohirio.

Ond nid yw hynny yn golygu bod y chwaraewyr yn cymryd pethau’n ysgafn, yn ôl un o’r chwaraewyr ifanc disglair.

Yn ôl y cefnwr ifanc Ben Davies mae’r chwaraewyr yn ymarfer yn galed ar gyfer y gêm yn erbyn Southampton wythnos i ddydd Sadwrn.

‘‘Yr ydym yn garfan benderfynol iawn ac am gadw ein safonau uchel wrth ymarfer ac mewn gemau,’’ meddai Davies, sydd wedi gwella erbyn hyn ar ôl dioddef salwch yn ystod y gêm gyfartal yn erbyn Norwich.

‘‘Yr oedd yn braf gweld y bechgyn yn brwydro yn ôl i gael gêm gyfartal yn Carrow Road.  Yr ydym yn canolbwyntio ar y gêm yn erbyn Southampton nawr ac yn gobeithio cael buddugoliaeth o flaen ein cefnogwyr,’’ ychwanegodd.