Y cwrs yn Augusta (o wefan y gystadleuaeth)
“Wow!” oedd ymateb y golffiwr o Gymru, Jamie Donaldson, ar ôl cael twll mewn un yng nghystadleuaeth Meistri America.

Dyma’r tro cynta’ i’r Cymro 37 oed o Bontypridd gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac fe drawodd ei ergyd gofiadwy ar y chweched twll.

Fe ddefnyddiodd glwb haearn 17 i daro’r ergyd gynta’ ar y twll sy’n 177 llath o hyd – y tro cynta’ ers 2004 i rywun gael twll mewn un yno yn ystod y gystadleuaeth.

“Roedd y pin yn y lle anodda’ posib felly’r cyfan allwch chi wneud yw mynd amdani ac fe weithiodd yr ergyd yn union fel yr o’n i eisiau,” meddai. “Roedd yn dipyn o ‘wow’.”

Yn ôl Donaldson, ei gadi oedd wedi dweud wrtho sut i chwarae’r twll yn Augusta.

Tros y safon

Er hynny, fe fydd rhaid i’r Cymro weithio’n galed i gyrraedd ail hanner y gystadleuaeth – mae ddwy tros y safon ar ôl y rownd gynta’.

Roedd hynny’n well na’r hen law, Ian Woosnam, a oedd wyth tros y safon ar ôl taro 80.

Fe gyfaddefodd y cyn bencampwr mai dyma’r tro cynta’ iddo gerdded o amgylch cwrs golff eleni.