George North
Mae prif hyfforddwr y Sgarlets wedi dweud fod gêm ei ranbarth yn erbyn Glasgow nos Wener yn “anferthol yng nghyd-destun y tymor.”
Mae’r Sgarlets yn brwydro gyda’r Gweilch am le yn rownd gyn-derfynol cynghrair y Pro12 ac mae Simon Easterby wedi rhybuddio fod gêm galed gan fois y Sosban yn erbyn tîm sydd ond wedi colli un gêm gynghrair yn y naw diwethaf.
Mae rhai o’r sêr a gipiodd y Chwe Gwlad gyda Chymru yn dechrau ym nhîm y Sgarlets, yn eu plith George North, Jonathan Davies, a Ken Owens.
Yn nhîm Glasgow fe fydd y chwaraewyr rhyngwladol Stuart Hogg, Ruaridh Jackson, Al Kellock a John Barclay. Mae’r gic gyntaf ar Barc y Sgarlets am 7.05 nos Wener (Ebrill 12).
Dreigiau yn teithio i Ulster
Mae taith anodd gan y Dreigiau i Ravenhill yn Belfast i wynebu Ulster. Mae gwŷr gogledd Iwerddon yn anelu am le yn nau safle uchaf y gynghrair er mwyn cael gêm gartref yn y rownd gyn-derfynol. Ail-reng Cymru Andrew Coombs yw’r capten ac mae Toby Faletau a Dan Lydiate wedi eu dewis yn y rheng ôl.
Mae Tommy Bowe yn dechrau ei gêm gyntaf dros Ulster ers anafu ei ben-glin ym mis Rhagfyr. Enillodd ei ganfed cap dros y dalaith pan ddaeth oddi ar y fainc yn y golled yn erbyn y Saracens yng nghwpan Heineken ddydd Sadwrn.
Mae Ulster yn erbyn y Dreigiau hefyd yn cychwyn am 7.05 nos Wener.