Dan Lydiate
Fe fydd canolwr y Gleision, Jamie Roberts, ac wythwr y Dreigiau, Dan Lydiate yn ymuno â chlwb Racing Metro yn Ffrainc y tymor nesaf, yn ôl y BBC.

Cyhoeddodd y ddau eu bwriad i adael eu rhanbarthau ar ddiwedd y tymor, ond roedd ansicrwydd i ble fydden nhw’n mynd.

Dydy’r clwb sydd wedi’i leoli ym Mharis ddim wedi cyhoeddi’n swyddogol eu bod nhw wedi arwyddo’r pâr, ond mae disgwyl cyhoeddiad fis nesaf.

Roberts a Lydiate yw’r Cymry diweddaraf i symud i Ffrainc.

Eisoes, mae Mike Phillips yn cynrychioli Bayonne, mae Luke Charteris a James Hook yn chwarae dros Perpignan ac mae Lee Byrne yn ennill ei fara menyn gyda Clermont Auvergne.

Fe fydd Gethin Jenkins, sydd wedi bod yn chwarae dros Toulon y tymor hwn, yn dychwelyd i’r Gleision y tymor nesaf.

Cafodd Dan Lydiate ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Chwe Gwlad y llynedd wrth i Gymru gipio’r Gamp Lawn, ond chafodd e ddim chwarae eleni oherwydd anaf i’w bigwrn.

Ond mae’n gobeithio bod yn holliach os caiff ei ddewis i gynrychioli’r Llewod yn Awstralia dros yr haf.

Daw’r newyddion am Roberts a Lydiate ddiwrnod yn unig ar ôl i’r Scarlets gadarnhau bod George North yn symud i Northampton y tymor nesaf.