Wrecsam 1–0 Caergrawnt

Sicrhaodd Wrecsam eu lle yng ngemau ail gyfle Uwch Gynghrair y Blue Square diolch i gôl gynnar Jay Colbeck ar y Cae Ras nos Fawrth.

Caergrawnt oedd yr ymwelwyr i ogledd Cymru ac roedd gôl Colbeck wedi dim ond pum munud yn ddigon i ennill y gêm i dîm Andy Morrell.

Yn dilyn symudiad da daeth Declan Walker o hyd i Colbeck yn y cwrt cosbi ac er i Nick Pope yn y gôl i Gaergrawnt arbed ei gynnig cyntaf fe rwydodd y chwaraewr ifanc ar yr ail gyfle.

Cafodd y Dreigiau gyfleoedd i ddyblu’r fantais yn yr ail gyfnod ond roedd Dele Adebola yn arbennig yn wastraffus braidd.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn drydydd ac yn sicrhau lle iddynt yn y gemau ail gyfle, ond dyna’r gorau y gall y Dreigiau ei gyflawni bellach gan i Mansfield ennill nos Fawrth hefyd. Maent bellach ddeg pwynt yn glir o Wrecsam gyda dim ond tair gêm i fynd.

.

Wrecsam

Tîm: Maxwell, Ashton, Walker, Clowes, Artell, Cieslewicz (Ormerod 71′), Clarke, Thornton (Evans 46′), Rushton (Morrell 84′), Colbeck, Adebola

Gôl: Colbeck 5’

.

Caergrawnt

Tîm: Pope, Roberts, Coulson, McAuley, Wassmer, Shaw, Dunk, Jarvis (Berry 66′), Elliott, Hughes (Gorman 46′), Smith (Pugh 46′)

.

Torf: 2,574