Casnewydd 1–0 Braintree

Sicrhaodd Casnewydd le yng ngêmau ail gyfle Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Braintree ar Rodney Parade nos Fawrth.

Sgoriodd Conor Washington unig gôl y gêm yn gynnar yn yr ail hanner wrth i dîm Justin Edinburgh ennill heb fod ar eu gorau.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe rwydodd Washington wedi dim ond tri munud o’r ail gyfnod ar ôl i Aaron O’Connor greu’r cyfle iddo.

Ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i Gasnewydd gadw pumed llechen lân mewn chwe gêm.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn bedwerydd yn y tabl ond yn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle. Mae’r tri phwynt hefyd, yn fathemategol o leiaf, yn cynnal eu gobeithion o ennill dyrchafiad uniongyrchol.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Hughes, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull (Evans 90′), Jolley (Flynn 58′), Willmott, Donnelly (Gilbey 82′), O’Connor, Washington

Gôl: Washington 48’

.

Braintree

Tîm: McDonald, Paine, Massey, Wells, Smith, Davis, Sparkes (Wright 59′), Daley, Mulley, Woodyard, Sheppard (Marks 59′)

Cerdyn Melyn: Paine 60′

.

Torf: 1,864