Caerdydd 1–1 Barnsley

Collodd Caerdydd gyfle i symud gam mawr yn nes at ennill dyrchafiad o’r Bencampwriaeth wrth i Stephen Foster fachu gôl hwyr i Barnsley yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen toc cyn yr awr diolch i Ben Turner ac felly yr arhosodd hi tan y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau pan wyrodd ergyd Foster heibio i David Marshall i droi tri phwynt Caerdydd yn un.

Llwyr reolodd Caerdydd drwyddi draw ond bu rhaid aros tan yr ail hanner am y gôl agoriadol pan rwydodd Turner gic gornel Kim Bo-Kyung wrth y postyn pellaf.

Ychydig o awch a ddangosodd Barnsley hyd yn oed wedi hynny ond methodd Heidar Helguson gyfle euraidd i sgorio ail y tîm cartref felly roedd gobaith o hyd i’r ymwelwyr hyd yr eiliadau olaf.

A dyna’n union pryd y sgoriodd Foster o unman – y gwyriad ar ei ergyd yn twyllo Marshall a Chaerdydd yn gorfod bodloni ar bwynt.

Mae’r Cymry’n aros ar frig y tabl wrth gwrs a hynny gyda naw pwynt o fantais ar Watford yn y trydydd safle gyda dim ond pum gêm i fynd.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Turner, Barnett, Kim Bo-Kyung (Whittingham 68′), Gunnarsson, Mutch, Smith (Conway 80′), Mason (Helguson 58′), Bellamy

Gôl: Turner 59’

Cardiau Melyn: Barnett, Gunnarsson

.

Barnsley

Tîm: Steele, Hassell, Foster, Wiseman, Kennedy, Dawson, O’Brien (Cywka 61′), Perkins, Mellis (Dagnall 70′), Harewood (Scotland 67′), O’Grady

Gôl: Foster 90’

Cerdyn Melyn: O’Grady

.

Torf: 22,584