Bydd clwb rygbi Llanelli yn teithio i Goldington Road i chwarae Gleision Bedford yn rownd y chwarteri yfory. Fe wnaeth tîm Anthony Buchanan sicrhau ei lle yn y chwarteri gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Moseley ond mae ganddynt gêm anodd yn erbyn y prif ddetholion y penwythnos hwn yng nghystadleuaeth y Cwpan Prydeinig a Gwyddeleg.
Mae Llanelli ar rediad da ac yn y trydydd safle yn y gynghrair.
‘‘Mae’r chwaraewyr yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth. Ni yw’r unig dîm o Gymru ac mae’n rhaid i ni roi ein gorau,’’ meddai Buchanan.
‘‘Mae’n gystadleuaeth arbennig ac mae’n braf profi eich hunain yn erbyn y timau gorau ac yr ydym yn gobeithio cyrraedd y rownd gynderfynol y tro yma. Nid oes amheuaeth am allu Bedford a bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau i’w trechu. Yr ydym wedi chwarae ein rygbi gorau yn y gystadleuaeth hon a gobeithio y medrwn barhau i wneud hynny dydd Sadwrn,’’ ychwanegodd Buchanan.
‘‘Fe wnaethom gyrraedd y rownd derfynol rai tymhorau yn ôl a byddem wrth ein bodd yn gwneud hynny eleni eto,’’ meddai cyn gefnwr Caerdydd a Chymru, Mike Rayer, sydd bellach yn gyfarwyddwr gyda Gleision Bedford.
Tîm Bedford: 15 Ben Ransom 14 James Short 13 Brendan Burke 12 Mark Atkinson 11 Josh Bassett 10 Jake Sharp 9 Luke Baldwin, 1 Darren Fearn 2 Neil Cochrane 3 Ben Cooper 4 Mike Howard 5 Paul Tupai 6 Gregor Gillanders 7 Darren Fox (Capten) 8 Tom Armes.
Eilyddion: Scott Spurling, Dan Seal, Joe Vandermolen, Nick Fenton-Wells, Darryl Veenendaal, Myles Dorrian, Ollie Dodge.
Tîm Llanelli: 15 Dale Ford 14 Kristian Phillips 13 Nic Reynolds 12 Chris Keenan 11 Kyle Evans 10 Jonny Lewis 9 Gareth Davies, 1 Rhys Thomas 2 Kirby Myhill 3 Aled Hopkins 4 Adam Powell (Capten) 5 Joel Galley 6 Lewis Rawlins 7 Daniel Thomas 8 Craig Price.
Eilyddion: Jamie Kaijacks, Craig Hawkins, Craig Cross, Nathan White, Duane Eager, Justin James, Jordan Williams.