Ar hyn o bryd mae gan dîm Malky Mackay saith pwynt o fantais ar y brig a gêm mewn llaw hefyd.
Yn dilyn buddugoliaeth Watford yn erbyn Hull nos Fawrth mae pethau’n agos iawn ar y brig ac o ganlyniad mae gêm yfory yn bwysig iawn.
Bydd yn rhaid i amddiffyn Caerdydd fod ar ei orau gan bod Watford wedi sgorio 76 o goliau mewn 40 gêm.
Mi fyddai buddugoliaeth yn rhoi Caerdydd gam yn nes at ddyrchafiad, ond nid yw Malky Mackay yn cymryd dim yn ganiataol meddai.