Mae chwydd wedi gostwng digon ar bigwrn Gareth Bale fel ei fod yn medru cael scan arno heddiw.

Cafodd Bale ei gario oddi ar y cae neithiwr ar ddiwedd y gêm gyfartal dwy gôl yr un rhwng Tottenham Hotspur a Basle.

Mae rheolwr Tottenham Andre Villas-Boas yn ffyddiog y bydd seren ei dîm yn gwella’n gyflym.

‘‘Mi fydd Gareth yn sicr o chwarae eto y tymor hwn, byddwn yn gwybod mwy yn dilyn y scan ond yr wyf yn weddol ffyddiog y bydd yn chwarae eto ymhen rhai wythnosau,’’ meddai Andre Villas-Boas.

Bu’n rhaid i Aaron Lennon a William Gallas adael y maes hefyd oherwydd anafiadau.

Amseru anffodus

Ni allai’r anafiadau fod wedi dod ar amser gwaeth i’r tîm gan fod Tottenham yn brwydro gydag Arsenal, Everton a Chelsea am y ddau le olaf yng Nghynghrair y Pencampwyr.  Bydd Spurs yn chwarae Everton yn White Hart Lane ddydd Sul.