Mae mewnwr y Gleision a Chymru, Lloyd Williams, yn mynd i golli pedair wythnos o rygbi o achos anaf a gafodd i’w ben-glin tra’n chwarae yn erbyn y Gweilch ddydd Sadwrn.

Bydd yn colli’r gemau yn erbyn Zebre a’r Sgarlets, ac mae’n bosib y bydd yn dychwelyd ar gyfer gêm ola’r Gleision eleni, yn erbyn Ulster ar Fai 3.

Mae’r Gleision yn yr wythfed safle yn y RaboDirect Pro12, 11 pwynt o flaen Dreigiau Gwent sydd yn y bedwaredd safle ac yn anelu am Gwpan Amlin y tymor nesaf yn hytrach na Chwpan Heineken.