Mae Bechgyn Cymru dan 18 wedi cipio Cwpan Aberteifi ar ôl curo bechgyn Iwerddon o 11 i 9.

Cafodd y twrnameint ei gynnal yng nghlwb golff Rosslare dros ddau ddiwrnod. Enillodd fechgyn Cymru ddwy o’r tair sesiwn, a roedd Tim Harry o Fro Morgannwg a Tom Williams o Wrecsam yn ddiguro.

Hedfanodd un o’r Cymry, Charlie Spencer-White o glwb Cradoc ger Aberhonddu, i Iwerddon o America er mwyn chwarae dros ei wlad, a llwyddodd i gyfrannu dau bwynt at gyfanswm Cymru.

“Mae hwn yn ganlyniad arbennig gan y bechgyn, ar gwrs cartref y Gwyddelod,” meddai cyfarwyddwr perfformiad Undeb Golff Cymru, Ben Waterhouse.

“Daw’n fuan ar ôl i ferched Cymru orffen yn drydydd yng Nghwpan Cenhedloedd Ewrop, ble ddaeth Chloe Williams o Wrecsam yn ail yn unigol, felly’n mae’n ddechreuad cryf iawn i’r tymor i dimoedd Cymru.

“Gobeithio bydd hwn yn berfformiad gall y bechgyn i gyd adeiladu arno, a roedd e’n destun balchder fod pob chwaraewr wedi cyfrannu o leiaf un pwynt i’r sgôr derfynol.”

Y tîm

Tîm Cymru oedd Jake Darlington (Celtic Manor), Jack Davidson (Llanwern), Tim Harry (Bro Morgannwg), Rhys Jones (Aberpennar), Otto Mand (Greenmeadow), Alex Matthews (Caerdydd), Charlie Spencer-White (Cradoc) a Tom Williams (Wrecsam).