Mae cyn-fowliwr Morgannwg, James Harris wedi ei gynnwys yng Ngharfan Berfformio Lloegr ar gyfer tymor 2013.

Penderfynodd Harris adael Morgannwg yn ystod y gaeaf ac ymuno â Middlesex, yn y gobaith o ennill ei le yng ngharfan lawn Lloegr.

Harris yw’r unig aelod o’r garfan sydd heb gynrychioli’r tîm cenedlaethol llawn mewn unrhyw fformat.

Fe fu’r bowliwr ar daith gyda Lloegr yn India a Seland Newydd yn ystod y gaeaf.

Carfan Berfformio Lloegr: Cook (Capten), Broad (Capten 20 pelawd), Anderson, Bairstow, Bell, Bopara, Bresnan, Briggs, Buttler, Compton, Dernbach, Finn, Hales, Harris, Kieswetter, Lumb, Meaker, Morgan, Onions, Panesar, Patel, Pietersen, Prior, Root, Swann, Tredwell, Tremlett, Trott, Woakes, Wright.