Nuneaton 1–2 Casnewydd

Cododd Casnewydd dros Wrecsam i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth dros Nuneaton ar Liberty Way brynhawn Llun.

Rhoddodd Simon Forsdick yr ymwelwyr ar blaen wedi chwarter awr yn dilyn camgymeriad gan Lenny Pidgeley yn y gôl.

Mae’r fuddugoliaeth ynghyd â gêm gyfartal Wrecsam yn codi Casnewydd i’r trydydd safle yn y tabl gyda chwe gêm i fynd.

Ond tarodd Robbie Willmott yn ôl i’r Cymry toc cyn yr awr gyda chic rydd dda o bellter cyn i James Armson benio croesiad Andy Sandell i’w rwyd ei hun i gyflwyno’r tri phwynt i Gasnewydd.

Mae’r fuddugoliaeth honno yn codi tîm Justin Edinburgh i’r trydydd safle ond maent yn aros ddeg pwynt y tu ô i Kidderminster ar y brig.

Di sgôr oedd hi rhwng Wrecsam a Macclesfield ar y Cae Ras wrth i’r Dreigiau golli mwy o dir ar y timau ar y brig. Mae’n ymddangos yn fwyfwy tebygol mai’r gemau ail gyfle fydd hi i’r ddau dîm o Gymry bellach.

.

Nuneaton

Tîm: Burge,Cartwright (Walker 88′), Phillips, Cowan, Dean, Forsdick, Armson, Dance (O’Halloran 68′), York, Brown, Moult (Adams 81′)

Gôl: Forsdick 15’

Cardiau Melyn: Dean 35’, Phillips 57’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Hughes, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Jolley, Donnelly, Evans (Willmott 46′), O’Connor (Griffiths 82′)

Goliau: Willmott 58’, Armson [g.e.h.] 77’

Cardiau Melyn: Minshull 11’, Sandell 65’

.

Torf: 1,068