Caerdydd 3–0 Blackburn
Ymestynnodd Caerdydd eu mantais ar frig y Bencampwriaeth i saith pwynt gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Blackburn yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Llun.
Rhoddodd Fraizer Campbell y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Joe Mason a Peter Wittingham sicrhau’r pwyntiau gyda dwy gôl hwyr.
Peniodd Campbell gic gornel Craig Bellamy i gefn y rhwyd i roi Caerdydd ar y blaen bum munud cyn yr egwyl ond bu rhaid aros tan y pum munud olaf ar gyfer gweddill y goliau.
Dyblodd Mason y fantais gyda gôl daclus cyn i Scott Dann ei lorio yn y cwrt cosbi i roi cyfle i Wittingham gwblhau’r sgorio o ddeuddeg llath yn yr amser a ganiateir am anafiadau.
Nid oedd Hull na Watford yn chwarae heddiw felly roedd y fuddugoliaeth yn ddigon i ymestyn mantais Caerdydd ar y brig i saith pwynt gyda dim ond saith gêm ar ôl.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Taylor, Turner, Connolly, Barnett, Conway, Kim Bo-Kyung, Gunnarsson, Mutch (Whittingham 81′), Campbell (Mason 58′) , Bellamy (Gestede 88′)
Goliau: Campbell 40’, Mason 86’, Wittingham [c.o.s.] 90’
.
Blackburn
Tîm: Kean (Sandomierski 53′), Dann, Kane, Hanley, Pedersen, Murphy (Rhodes 75′), Morris, Bentley (Dunn 62′), Jones , Best, Kazim-Richards
Cardiau Melyn: Best 33’, Kean 40’ Kazim-Richards 79’, Dann 90’
.
Torf: 24,327