Gleision 16 – 23 Gweilch

Y Gweilch aeth â hi yn ail gêm ddarbi Cymreig y diwrnod yn Stadiwm y Mileniwm heno, gan godi nôl i’r pedwerydd safle yn y cynghrair.

Roedd y Sgarlets wedi curo’r Dreigiau ynghynt yn y dydd, gan lamu uwchben y Gweilch i mewn i safleoedd gemau ail gyfle’r Rabbo Pro 12.

Ond, doedden nhw ddim yno’n hir wrth i geisiau gan James King a Jonathan Spratt helpu sicrhau buddugoliaeth i’r Gweilch.

Roedd tîm Steve Tandy yn arwain 20 – 10 ar yr hanner diolch i ddau gais a chicio cywir y maswr Dan Biggar.

Er bod cais Leigh Halfpenny wedi cadw’r Gleision o fewn cyrraedd, roedd disgwyl i’r Gweilch daflu popeth at eu gwrthwynebwyr er mwyn sicrhau pwynt bonws yn yr ail hanner.

Ond nid felly bu, ac roedd y Gleision wedi brwydro nôl o fewn 4 pwynt gyda munudau o’r gêm yn weddill diolch i ddwy gic gosb Halfpenny.

Er hynny, llwyddodd Biggar i adfer gwahaniaeth o saith pwynt a sicrhau buddugoliaeth bwysig i’w dîm.

Mae’r Gweilch bellach yn y pedwerydd safle, ar yr un pwyntiau a’r Sgarlets ond â gwahaniaeth pwyntiau gwell.