Gareth Bale - a suddodd obeithion yr Elyrch y pnawn yma
Colli gartref a wnaeth Abertawe’r prynhawn yma wrth i athrylith Gareth Bale sicrhau buddugoliaeth glir i Tottenham.

Llwyddodd y Cymro i greu gôl gyntaf Spurs gan Jan Veronghen yn y seithed munud, gan sgorio’i hun i ddyblu’r fantais i’r ymwelwyr wedi 20 munud.

Hon oedd ei 27ain gôl i Spurs ac i Gymru y tymor yma.

Y gêm heddiw oedd y drydedd i’r Elyrch ei cholli ers cyrraedd 40 pwynt wrth guro Newcastle, ond llwyddodd Michu i gynnal gobaith y cefnogwyr gyda gôl yn 20 munud olaf y gêm.

Yn sgil eu buddugoliaeth heddiw, mae Spurs bellach wedi codi i’r trydydd safle yn yr Uwch Gynghrair.