Wythnos ar ôl eu buddugoliaeth fawr yn Wembley, colli 2-0 fu hanes Wrecsam yn Hyde heddiw.

Gyda gôl gan Scott Hogan yn yr hanner cyntaf ac un arall gan Shay McCartan ym munud olaf y gêm, dyw Wrecsam yn ddim nes ac wireddu’u hamcan o ddyrchafiad i’r prif gynghreiriau pêl-droed.

Gêm siomedig a gafodd Casnewydd hefyd ar ôl canlyniad di-sgôr gartref yn erbyn Dartford. Golyga hyn fod eu gobaith am ddyrchafiad awtomatig yn cyflym ddiflannu.

Kidderminster sydd ar frig uwch-gynghrair Conference gyda 81 o bwyntiau gyda 3 gêm mewn llaw, ond mae Mansfield, sydd wedi chwarae’r un nifer o gemau â Wrecsam a Chasnewydd, yn dynn ar eu sodlau gyda 80 o bwyntiau.

Mae Wrecsam ar 72 o bwyntiau, un yn fwy na Chasnewydd, ond gyda 10 gôl o fantais arnynt.