Aron Gunnarsson a sgoriodd unig gôl Caerdydd heddiw
Colli fu hanes Caerdydd yn Peterborough heddiw gyda dwy gic gosb yn 18 munud olaf y gêm yn cipio buddugoliaeth i’r tîm cartref.

Roedd yr Adar Gleision wedi bod 1-0 ar y blaen ers i Aron Gunnarsson sgorio’i wythfed gôl y tymor yma 20 munud i mewn i’r gêm.

Ond ar ôl troseddau gan Dan Cowie a Matthew Connolly, fe lwyddodd Grant McCann i sgorio dwy gic o’r smotyn o fewn saith munud i’w gilydd gan wyrdroi’r sgôr i 2-1 i Peterborough.

Roedd y fuddugoliaeth yn un yr oedd Peterborough yn falch ohoni gan ei bod yn golygu eu bod nhw bellach yn ddiogel rhag colli eu lle yng nghynghrair Pencampwriaeth npower. Hon oedd y chweched gêm yn olynol iddyn nhw ei hennill.