George North - sgorio dau gais i'r Scarlets heddiw
Yn y gyntaf o’r ddwy gêm ddarbi dyngedfennol yn Stadiwm y Mileniwm y prynhawn yma, llwyddodd y Scarlets i guro’r Dreigiau o 28 pwynt i 20.

Ond doedd y fuddugoliaeth o dri chais i ddau ddim yn ddigon i ennill pwynt bonws iddyn nhw yn eu hymgyrch am le yng ngemau ail gyfle RaboDirect Pro 12.

Llwyddodd y Dreigiau, sydd un o’r gwaelod yn y tabl, i roi gêm galed iddyn nhw. Roedden nhw’n benderfynol o wneud hynny ar ôl colli 52-19 i’r Gweilch wythnos yn ôl, a heb guro’r Scarlets mewn gêm gynghrair ers 2008.

Yn fuan ar ôl i’r Scarlets fynd ar y blaen gyda chic gosb gan Owen Williams, roedd y Dreigiau i lawr i 14 dyn ar ôl i un o sêr tîm Cymru, Toby Faletau, gael ei yrru i’r cwrt cosbi.

Gyda chais gan George North yn fuan wedyn, roedd y Scarlets 10 pwynt ar y blaen.

Ond llwyddodd y Dreigiau i daro’n ôl gyda chais gan Jonathan Evans, a throsiad a chic gosb gan y cefnwr Tom Prydie yn gwneud y sgôr yn gyfartal ar hanner amser.

Erbyn y chwarter olaf roedd y Scarlets 16-13 ar y blaen, ar ôl dwy gic gosb gan Williams ac un gan Prydie.

Yn sydyn, roedd hi’n ymddangos bod pwynt bonws o fewn cyrraedd y Scarlets gyda cheisiau cyflym gan Jonathan Davies ac un arall gan George North, ond nid felly’r oedd pethau i fod. Roedd Dan Evans yn llawn haeddu lleihau’r bwlch i 28-20 gyda chais bum munud cyn y diwedd.