Gateshead 0–0 Casnewydd

Collodd Casnewydd gyfle gwych i gau’r bwlch ar y timau ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda gêm gyfartal yn erbyn Gateshead yn York Street, Boston, nos Fawrth.

Hwn oedd y pumed tro i’r gêm hon gael ei threfnu. Bu rhaid gohirio bedair gwaith oherwydd y tywydd a phroblemau gyda chae’r tîm cartref yn Stadiwm Ryngwladol Gateshead, felly doedd dim amdani ond chwarae mewn maes arall.

Gêm ar gae niwtral i Gasnewydd felly mwy neu lai ond methodd y Cymry a manteisio wrth iddi orffen yn ddi sgôr. Aaron O’Connor a gafodd gyfleoedd gorau’r ymwelwyr ond methodd fanteisio ar ddau achlysur yn yr ail hanner.

Casnewydd oedd yr unig dîm o’r pump uchaf i chwarae heno ond methu cyfle oedd eu hanes wrth iddynt aros yn bedwerydd, wyth pwynt y tu ôl i Kidderminster ar y brig.

.

Gateshead

Tîm: Bartlett, Curtis, Clark, Galpin, Chandler, Gillies, Turnbull, Cummins, Donaldson, Henderson (Hatch 65′), Everson

Cardiau Melyn: Chandler 7’, Henderson 52’, Hatch 76’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Hughes, James, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Jolley (Willmott 65′), Donnelly, Evans, O’Connor

.

Torf: 227