Mae’r chwaraewr canol cae Jazz Richards wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Elyrch hyd at 2016.

Er iddo gyfaddef bod yna glybiau eraill wedi dangos diddordeb ynddo, mynnodd nad oedd byth wedi meddwl gadael Abertawe.

‘‘Dyma le’r wyf eisiau bod.  Cefais fy ngeni a magu yma, ac rwy wrth fy modd wedi arwyddo cytundeb newydd,’’ meddai Richards.

‘‘Maen nhw’n chwarae’r pêl-droed gorau yn yr Uwch Gynghrair, buaswn i’n wirion i adael,’’ ychwanegodd.

Fe ymddangosodd Richards bedair gwaith i Abertawe yng ngemau’r Cwpan cyn symud i Crystal Palace ar fenthyg ar gyfer gweddill yr ymgyrch ym mis Ionawr.

Mae Richards yn dychwelyd i Abertawe yn yr haf, gan wthio ei hun i sicrhau ei safle yn nhîm yr Elyrch.

Ond cyn gwneud hynny, bydd rhaid i Richards wynebu cystadleuaeth gref gan Angel Rangel a Ben Davies sydd wedi dod i’r amlwg.  Yn ogystal â Neil Taylor sydd yn agos iawn at ddychwelyd wedi iddo wella o’i anaf i’w bigwrn.