Mae Gleision Caerdydd yn ystyried gosod cae artiffisial ar Barc yr Arfau’r tymor nesaf.

Nid yw’r maes wedi bod ar ei orau dros y misoedd diwethaf.  Ar ôl chwarae ar Barc Allianz yn erbyn y Saraseniaid, roedd y cae artiffisial wedi creu argraff ar y Gleision.

Dim ond £18,000 y flwyddyn sydd angen i gynnal y wyneb artiffisial ar y cae, yn hytrach na £85,000 ar gyfer y cae presennol.  Ond mae angen newid y cae artiffisial bob wyth mlynedd.