Ar drothwy Cymru yn erbyn yr Alban yfory, mae cyn asgellwr Cymru a’r Llewod a rheolwr y Llewod ar y daith i Dde Affrig yn 2009, wedi talu teyrnged arbennig i’r capten Ryan Jones.
‘‘Wrth fynd o gwmpas ei chwaraewyr yn hamddenol gan gael gair tawel, mae’n ymddangos fod ganddo ddigon o amser ar ei ddwylo i roi sylw i bawb,” meddai Gerald Davies.
“Mae’n dod ag elfen o dawelwch i’r tîm yn ei osgo a’i ymddygiad.
‘‘Y math o chwaraewr y byddech yn fodlon mentro yn hapus i goedwig yn ei gwmni, yn gwybod y byddech yn dod allan yn ddiogel yr ochr arall ac wedi cael amser da ar y ffordd. Mae’n cael ei barchu gan ei gyd chwaraewyr a hefyd gyda phawb sy’n ymwneud â’r gêm,’’ ychwanegodd Davies.
Ryan yw’r gorau i mi ei gael – Warburton
Mae’r cyn gapten Sam Warburton sy’n dychwelyd i’r tîm yfory wedi dweud yr wythnos hon mai Ryan Jones yw’r capten gorau iddo chwarae iddo.
Ac mae gan Ryan Jones barch mawr at y cyn-gapten hefyd.
Meddai Ryan Jones: ‘‘Yr wyf am gyfranu i’r tîm mewn unrhyw ffordd y mae’r hyfforddwr am i mi ei wneud. Pan fydd angen gwneud penderfyniad ar y cae byddaf yn ei wneud ond hefyd byddaf yn trafod gyda Sam a nifer o chwaraewyr eraill yn ystod y gêm.
‘‘Bydd yfory yn gyfle i Sam ganolbwyntio ar ei gêm gan anghofio am bopeth arall a dangos i bawb ei allu fel chwaraewr,’’ ychwanegodd Jones.