Richie Rees
Mae’r mewnwr rhyngwladol Richie Rees yn dychwelyd i Gymru ar ôl tymor gyda Chaeredin.

Mae’r chwaraewr 29 oed wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Dreigiau Gwent.

Treuliodd Rees bum tymor gyda Gleision Caerdydd ac mae wedi ennill naw cap dros Gymru, a dywedodd prif hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards, eu bod nhw’n “hapus tu hwnt yn arwyddo chwaraewr o safon Richie”.

“Yn safle’r mewnwr mae gennym ni chwaraewr addawol eisoes yn Jonathan Evans, a llywiwr gêm profiadol yn Wayne Evans, ond rydym ni’n edrych i gryfhau ac i gynyddu’r cystadleurwydd o fewn y garfan,” meddai’r hyfforddwr.