Mae’r amddiffynnwr Angel Rangel wedi ymestyn ei gytundeb am dair blynedd arall gydag Abertawe.  Bydd hyn yn ei glymu i’r Liberty hyd at 2016.

Ers ymuno chwe blynedd yn ôl o glwb Terrassa yn Sbaen mae Rangel wedi chwarae rhan allweddol yn y tîm.

‘‘Mae’n dangos mor dda mae pethau yn mynd yma wrth i nifer o chwaraewyr arwyddo cytundebau newydd,” meddai Rangel.

“Mae’r clwb yn sylweddoli bod y chwaraewyr yn gwneud gwaith da ac yn ei gwobrwyo.

‘‘Yr ydym yn gwella o hyd fel tîm ac mae pawb yn awyddus i chwarae eu rhan.  Ar nodyn personol yr wyf wedi cael amser arbennig yma ers i mi chwarae yn fy ngêm gyntaf yn erbyn Oldham,’’ ychwanegodd yr amddiffynnwr.

‘‘Ar ôl cael tymor cyntaf arbennig yn y gynghrair yr oedd rhai yn amau a fedrem lwyddo y tymor hwn, ond yr ydym yn hanner uchaf y gynghrair gyda 40 o bwyntiau ac wedi ennill cwpan Capital One. Ac erbyn hyn yr ydym yn edrych ymlaen i chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.  Yr wyf wedi ymgartrefu yma, wedi priodi Cymraes ac yn teimlo fel Cymro erbyn hyn.”