Crys Cymry Llundain (o wefan Uwchgynghrair Aviva)
Fe fydd clwb rygbi Cymry Llundain yn apelio yn erbyn cosb o bum pwynt sydd wedi ei rhoi arnyn nhw am adael i chwaraewr gynrychioli’r clwb yn groes i’r rheolau.
Fe ddywedon nhw eu bod yn “siomedig tu hwnt” gyda phenderfyniad undeb rygbi Lloegr i’w cosbi’n drwm a’u gyrru i waelod y Cynghrair.
Fe ddywedodd Prif Weithredwr y clwb, y cyn chwaraewr rhyngwladol, Tony Copsey, y bydden nhw’n apelio.
Y chwaraewyr a’r tîm hyfforddi dan arweiniad Lyn Jones oedd yn cael eu cosbi, meddai.
Y cefndir
Fe gafodd y clwb ddirwy o £15,000 hefyd am fod Tyson Keats o Seland Newydd wedi chwarae dros y clwb ac yntau heb fisa dilys i weithio yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl dyfarniad yr RFU roedd cyn-reolwr y clwb, Mike Scott, wedi ffugio dogfennau er mwyn rhoi’r argraff fod Keats yn ddilys i chwarae.
Meddai’r clwb
Mewn datganiad dywedodd y clwb:
“Heb yn wybod i’r clwb roedd wedi dioddef o achos ymddygiad twyllodrus un unigolyn a Chymry Llundain ddaeth o hyd i’r twyll ac a ddywedodd wrth yr RFU.
“Ond mae’r Panel wedi cosbi Cymry Llundain ar y sail mai’r clwb sydd ar fai am yr hyn y mae un person wedi ei wneud.”